Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 1 Hydref 2015
Amser: 09.12 -
14.32
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3246
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Tystion: |
Dr Steven Macey, ASH Cymru Jamie Matthews, ASH Cymru Yr Athro Linda Bauld, Ymchwil Canser y DU Yr Athro John Britton, Canolfan y DU ar gyfer Astudiaethau Tybaco ac Alcohol ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Resbiradol, Prifysgol Nottingham ac Ysbyty Dinas Nottingham Yr Athro Peter Hajek, Canolfan Astudio Tybaco ac Alcohol y DU, a chydawdur yr adroddiad ‘E-cigarettes: an evidence update' a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr Dr Phil Banfield, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) Dr Iain Kennedy, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)Dr Alan Rees, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Beverlea Frowen, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Yr Athro Alan Maryon-Davis, Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 Nododd yr Aelodau flaenraglen waith amlinellol y Pwyllgor ar gyfer gweddill y pedwerydd Cynulliad, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr eitem hon ar ddyddiad arall.
1.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
· ei ddull gweithredu ar gyfer gwneud darn manwl o waith dilynol ar ei ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru;
· neilltuo amser yn ei raglen i ystyried Bil drafft Cymru, yn enwedig yr effaith y gallai unrhyw fodel cadw pwerau ei chael ar y setliad datganoli mewn perthynas â materion iechyd a gofal cymdeithasol; a
· gohirio ei ystyriaeth o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 tan fis Ionawr 2016.
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones a Darren Millar.
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
3.2 Cytunodd y tystion i ymchwilio ynghylch a oes gwybodaeth ar gael mewn perthynas â'r canlynol:
· sut mae ysmygwyr yn defnyddio e-sigaréts i leihau eu defnydd o sigaréts confensiynol;
· cymhariaeth o'r niwed posibl i iechyd o'r tocsinau a charsinogenau a ryddheir gan gynhyrchion pob dydd â'r rhai a ryddheir gan e-sigaréts; a
· thystiolaeth o unrhyw welliannau i iechyd ysmygwyr sy'n defnyddio e-sigaréts i leihau eu defnydd o sigaréts confensiynol.
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
5.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau.
5.2 Cytunodd y tyst i ddarparu i'r Pwyllgor gopi o'r astudiaeth y cyfeiriodd ati ar sut y gall perthynas pobl ifanc ag e-sigaréts effeithio ar eu perthynas â sigaréts confensiynol.
6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
7.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau.
8.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 23 Medi 2015.
8.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain.
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.